Amodau
Roedd eira newydd yn gorwedd o tua 650m ar y mynydd heddiw. Roedd yr eira yn dadmer ac yn feddal yn y rhan fwyaf o lefydd, ond yn ddigon llithrig o'r herwydd. Mewn rhai llefydd, yn enwedig ar lwybrau y mwynwyr a PyG rhwng tua 850m a 1000m roedd yr eira ar y llwybr yn fwy cywasgedig ac felly yn fwy llithrig byth.
Roedd yr eira yn ymddangos ei fod wedi disgyn dan ddylanwad gwynt gorllewinol sylweddol ac felly wedi hel yn fwy trwchus ar lechweddau yn wynebu'r dwyrain. Ar lechweddau mwy gorllewinol roedd yr eira yn gyffredinol deneuach, neu wedi dadmer yn llwyr mewn mannau, ond roedd nifer o fannau lle oedd ardaloedd o eira fwy trwchus. Roedd yr eira wedi hel yn arbennig ar rannau o lwybr Llanberis ac ar hyd y rheilffordd.
Gyda dadmer sylweddol yn debygol ddydd Mercher, mae cyfnod o eira mwy ansefydlog yn bosibl (gweler Gwybodaeth Ychwanegol isod).
Diwrnod cymylog gwyntog iawn, gyda dechrau gwlyb, ac ysbeidiau heulog yn datblygu ar adegau yn hwyrach ymlaen.
Offer hanfodol
Offer cerdded addas tymhorol, yn cynnwys goleuadau (fel lamp pen).
Bydd cario caib rew a rhyw fath o bigau i'r traed yn rhoi dewisiadau i gadw'n ddiogel ar y mynydd tra mae ardaloedd o eira a rhew yn parhau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ddydd Mawrth yr adroddiad mae'r rhagolygon yn awgrymu bydd y tymheredd ar y copa yn uwch na'r rhewbwynt am y rhan fwyaf o'r cyfnod hyd yr adroddiad nesaf dydd Gwener, ar ôl cyfnod ychydig yn oerach nos Fawrth. Hyd yn oed pan fydd y tymheredd sawl gradd uwchben y rhewbwynt gall dal deimlo yn oer iawn yn y gwynt a'r glaw, gan deimlo fel -2˚C hyd yn oed pan mae'r tymheredd yn 5˚C.
Er bod yr eira yn dadmer yn barod, a bod hyn yn debygol o barhau, ddigon araf fydd y dadmer yma yn uwch ar y mynydd nos Fawrth, ac felly mae o leiaf rhywfaint o eira yn debygol o fod yn gorwedd ar y mynydd fore Mercher. Wrth iddi ddechrau glawio ddydd Mercher bydd dadmer mwy sylweddol yn digwydd, gan ddod a posibilrwydd o gyfnod o eira mwy ansefydlog ar y mynydd (gweler ddiwedd yr adroddiad llawn am fwy o wybodaeth). Wrth i'r dadmer barhau mae llai o eira yn debygol ar y mynydd, ond gall barhau mewn rhai mannau am nifer o ddyddiau.
Bydd cyfnod o ansefydlogrwydd fwyaf tebygol ar lethrau serth a hafnau yn gwynebu tua'r dwyrain lle mae eira wedi hel oherwydd y gwynt gorllewinol. Daw hyn a posibrwydd o berygl ychwanegol islaw i ardaloedd o'r fath am gyfnod , fel ar rannau uwch o lwybrau y PyG a mwynwyr o dan Bwlch Glas (o dan tua 1000m).
Conditions
There was new snow from around 650m on the mountain today. The snow was thawing and soft in most places, but quite slippery as a result. In some places, especially on the miners' and PyG paths between about 850m and 1000m the snow on the path was more compacted and therefore even more slippery.
The snow appeared to have fallen under the influence of a significant westerly wind and therefore accumulated more on slopes with a more east facing aspects. On more west facing slopes the snow was generally thinner, or completely thawed in places, but there were a number of places where there were areas of thicker snow. The snow had accumulated particularly on parts of the Llanberis path and along the railway line.
With a significant thaw likely on Wednesday, a period of less stable snow is possible (see Additional Information below).
A very windy and cloudy day, with a wet start, and sunny spells developing at times later on.
Essential equipment
Seasonally appropriate walking equipment, including lighting (such as a head torch).
Carrying an ice axe and some form of crampons will give you options to stay safe on the mountain while areas of snow and ice persist.
Additional information
On the Tuesday of the report the forecast suggests that the temperature on the summit will be above freezing for most of the period until the next report on Friday, after a slightly cooler period on Tuesday night. Even when the temperature is several degrees above freezing it can still feel very cold in the wind and rain, feeling like -2˚C even when the temperature is 5˚C.
Although the snow is already thawing, and this is likely to continue, the thaw will be slow enough higher up on the mountain on Tuesday night, and so at least some snow is likely to be lying on the mountain on Wednesday morning . As it starts to rain on Wednesday a more significant thaw will occur, bringing with it the possibility of a period of more unstable snow on the mountain (see end of full report for more information). As the thaw continues less snow is likely on the mountain, but it may continue in some places for several days.
A period of instability is most likely on steep east facing slopes and gullies where snow has accumulated due to the westerly wind. This comes with the possibility of additional risk below such areas for a time, such as on higher parts of the PyG and miners' paths below Bwlch Glas (below about 1000m).