Darllen yr Adroddiad
Bydd eiconau yn cael eu harddangos yn yr adran 'Peryglon a welwyd' ar sail yr hyn a welir yn ystod yr arsylwadau, ac felly yn adlewyrchu amodau ar y mynydd ar y pryd. Mae eiconau sy'n ymddangos fel 'Peryglon Posib' yn seiliedig ar y wybodaeth sydd yn ymddangos yn y rhagolygon tywydd pan fydd yr adroddiad yn cael ei lunio, ac felly yn ddim ond syniad o beth sy'n bosib.

Gan y gall amodau ddatblygu yn gyflym oherwydd union natur amgylchiadau ar y mynydd, ac y gall y rhagolygon ddatblygu dros y dyddiau rhwng adroddiadau, bydd cadw llygad ar y rhagolygon, yn ogystal â ffynonellau eraill o wybodaeth (e.e. mesuriad tymheredd y copa ar wefan 'Yr Wyddfa Fyw'), am yr holl ddyddiau rhwng adroddiadau yn rhoi darlun llawnach o'r amodau tebygol yn y dyddiau rhwng yr adroddiadau.

Y bwriad yw i geisio darparu gwybodaeth ychwanegol ar gyfer cynllunio teithio ar y mynydd, ond dylid deall y dylai pob un sy'n mentro ar y mynydd fod yn barod i amgylchiadau fod yn wahanol i'r disgwyl, a gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch yr holl wybodaeth sydd ar gael iddynt, yn cynnwys ymateb i ddatblygiadau annisgwyl ar y mynydd. Mae'r peryglon sy'n cael eu hadrodd yn gyfyngedig i'r hyn a welir ar y mynydd, a gwybodaeth am y rhagolygon ar amser llunio'r adroddiad, yn hytrach na adlewyrchu union beryglon sydd posib i'w gweld ar y mynydd.

Mae cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau ar y mynydd yn dod gyda perygl o ddamweiniau all olygu anafiadau neu farwolaeth, lle mae'n anodd i unrhyw gymorth gyrraedd. Dylid unrhyw un sy'n gwneud gweithgareddau ar y mynydd dderbyn y peryglon hyn drostynt eu hunain, a chymryd cyfrifoldeb dros eu diogelwch eu hunain, heb beryglu eraill o'u cwmpas, a'r amgylchedd.

Eira

Snow

Bydd yr eicon 'Eira' yn dangos pan fydd eira wedi bod yn bresennol yn ystod yr arsylwadau ar ddydd yr adroddiad. Gall hyn fod yn fwrw eira ar rai adegau o'r dydd, fod eira yn gorwedd ar y llwybr, neu fod eira yn bresennol yn fwy cyffredinol ar y mynydd. Mae'n bosib na fydd yr eicon yn bresennol ar adegau lle mae eira cyfyngedig yn gorwedd ar y mynydd, ac nad yw'n effeithio cerdded y llwybr yr arsylwyd ar gyfer yr adroddiad cyfredol. Am wybodaeth lawnach am natur a faint yr eira sy'n bresennol dylid darllen yr adroddiad llawn. Gall yr eicon hefyd ymddangos fel rhan o'r 'Peryglon Posib' os bydd eira yn ymddangos yn y rhagolygon tywydd ar ddydd yr adroddiad ar gyfer y cyfnod cyn yr adroddiad nesaf, neu os bydd posibilrwydd amlwg y gall ddatblygu.

Rhew

Ice

Bydd yr eicon 'Rhew' yn dangos pan fydd rhew wedi bod yn bresennol yn ystod yr arsylwadau ar ddydd yr adroddiad. Gall hyn fod yn rew wedi ffurfio ar y llwybr, neu fod rhew yn bresennol yn fwy cyffredinol ar y mynydd. Mae'n bosib na fydd yr eicon yn bresennol ar adegau lle mae rhew cyfyngedig yn bresennol ar y mynydd, ac nad yw'n effeithio cerdded y llwybr yr arsylwyd ar gyfer yr adroddiad cyfredol. Am wybodaeth lawnach am natur a faint y rhew sy'n bresennol dylid darllen yr adroddiad llawn. Gall yr eicon hefyd ymddangos fel rhan o'r 'Peryglon Posib' os bydd tymheredd o 0˚C neu lai am gyfnod sylweddol yn ymddangos yn y rhagolygon tywydd ar ddydd yr adroddiad ar gyfer y copa am y cyfnod cyn yr adroddiad nesaf.

Gwelededd

Visibility

Bydd yr eicon 'Gwelededd' yn dangos pan fydd gwelededd yn wael iawn ar ddydd yr adroddiad. Bydd hyn ar gyfer amgylchiadau mwy difrifol na dim ond gwmwl neu niwl yn lleihau y pellter sy'n bosibl ei weld, pan fydd y gwelededd mor wael ei fod yn gwneud dod o hyd i, neu hyd yn oed weld y llwybrau yn anodd. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd pan fydd gorchudd sylweddol o eira yn bodoli ar rannau o'r mynydd, a bod cwmwl isel, niwl, lluwchio oherwydd y gwynt, neu/a eira yn disgyn ar adegau. Am wybodaeth lawnach am yr amgylchiadau dylid darllen yr adroddiad llawn. Bydd cryn ansicrwydd o ran ymddangosiad yr eicon yma fel un o'r 'Peryglon Posibl', ond bydd yn ymddangos lle mae'r wybodaeth ar ddydd yr adroddiad yn awgrymu y bydd posibilrwydd sylweddol y gall ddigwydd yn y dyddiau i ddod.

Bargodi

Cornice

Bydd yr eicon 'Bargodi' yn dangos pan fydd tystiolaeth o fargodi yn digwydd mewn mannau yn ystod yr arsylwadau ar ddydd yr adroddiad. Gall hyn fod yn gweld bargod yn dechrau ffurfio ar hyd rhai ymylon, neu fod bargodi mwy sylweddol wedi digwydd yn barod.

Llithrig

Slippery

Bydd yr eicon 'Llwybrau Llithrig' yn dangos pan fydd llwybrau yn nodedig lithrig yn ystod yr arsylwadau. Mae'r eicon yma yn debygol o ymddangos pan fo ardaloedd ar y llwybr sydd mewn cyflwr llithrig y tu hwnt i'r hyn sydd i'w ddisgwyl o natur lithrig arferol rhew neu eira ar y mynydd, neu fod amodau cyffredinol yn ei gwneud yn amlwg fwy llithrig nag amodau gaeafol 'arferol'. Mewn amgylchiadau eithriadol mae'n bosib i'r eicon gael ei ddefnyddio fel 'Perygl Posibl' os oes rheswm arbennig i ragweld y gall hyn ddatblygu yn y dyddiau rhwng adroddiadau.

Llithrig

Slippery

Bydd yr eicon 'Llethrau Llithrig' yn dangos pan fydd natur lithrig yr eira neu rew yn gyffredinol yn berygl wrth gerdded y llwybr ar adeg yr arsylwadau, y tu hwnt i'r perygl oherwydd amodau ar y llwybr ei hun. Gall hyn fod oherwydd eira neu rew caled ar lethrau sylweddol ar y mynydd yn arwain at bosibilrwydd mwy sylweddol i lithriadau mwy difrifol ddatblygu yn rhwydd o lithriadau bychain.

Lluwchio

Wind Transport

Bydd yr eicon 'Lluwchio' yn dangos pan fydd eira sylweddol yn cael ei symud dan ddylanwad gwynt yn ystod yr arsylwadau ar ddydd yr adroddiad. Yn ogystal â bod yn gysylltiedig â rai peryglon eraill (fel gwelededd gwael, amodau bargodi) gall hefyd gyfrannu at amodau i eira mwy ansefydlog yn datblygu, a bod yn elfen risg ar gyfer cwympiadau eira. Gall yr eicon hefyd ymddangos fel rhan o'r 'Peryglon Posib' os bydd cyfuniad o wynt ac eira (yn gorwedd a/neu yn disgyn) yn ymddangos yn y rhagolygon tywydd ar ddydd yr adroddiad ar gyfer y cyfnod cyn yr adroddiad nesaf.

Eira Newydd

New Snow

Bydd yr eicon 'Eira Newydd' yn dangos pan fydd eira gymharol newydd yn bresennol yn ystod yr arsylwadau ar ddydd yr adroddiad. Am wybodaeth lawnach am natur a faint yr eira sy'n bresennol dylid darllen yr adroddiad llawn.  Gall eira diweddar gyfrannu at amodau i eira mwy ansefydlog yn datblygu, a bod yn elfen risg ar gyfer cwympiadau eira. Gall yr eicon hefyd ymddangos fel rhan o'r 'Peryglon Posib' os bydd eira yn ymddangos yn y rhagolygon tywydd ar ddydd yr adroddiad ar gyfer y cyfnod cyn yr adroddiad nesaf, neu os bydd posibilrwydd amlwg y gall ddatblygu. Gan fod amgylchiadau ar gyfer bwrw eira yn gallu bod yn ymylol iawn ar adegau ni fydd ymddangosiad yr eicon neu beidio yn y 'Peryglon Posib' yn arwydd dibynnol iawn o pryd fydd eira yn datblygu.

Dadmer

Thaw

Bydd yr eicon 'Dadmer' yn dangos pan fydd dadmer amlwg yn digwydd yn ystod yr arsylwadau ar ddydd yr adroddiad. Am wybodaeth lawnach am natur y dadmer dylid darllen yr adroddiad llawn. Gall eira neu rew yn dadmer gyfrannu at amodau mwy ansefydlog yn datblygu a bod yn elfen risg ar gyfer cwympiadau eira. Gall yr eicon hefyd ymddangos fel rhan o'r 'Peryglon Posib' os bydd tymheredd sy'n debygol i arwain at ddadmer yn y rhagolygon tywydd ar ddydd yr adroddiad ar gyfer y cyfnod cyn yr adroddiad nesaf, neu os bydd posibilrwydd amlwg y gall ddatblygu, yn enwedig pan mae tebygolrwydd o law hefyd yn bresennol.

Dim Eira

No Snow

Bydd yr eicon 'Dim Eira' yn dangos pan na fydd unrhyw eicon arall yn cael ei ddangos. Nid yw yn dynodi unrhyw berygl penodol, ond nid yw chwaith yn golygu nad oes unrhyw beryglon amgylcheddol yn debygol o fodoli o gwbl (e.e. oherwydd y tywydd), dim ond nad oes unrhyw un o'r eiconau amodau gaeafol penodol yn berthnasol yn ystod y cyfnod arsylwi a bod dim eira yn gorwedd ar y mynydd yn ystod yr arsylwadau diweddaraf.

Golau

Lights

Bydd yr eicon 'Golau' yn cael ei arddangos ar adegau pan fydd golau dydd yn fyr. Mae yn debygol o ymddangos am y rhan fwyaf o'r cyfnod adroddiadau gan fod cael eich dal allan yn y tywyllwch yn broblem gyffredin gydag ateb syml, ond sydd yn anodd iawn ei datrys heb olau addas. Mae bron yn amhosibl gallu dychwelyd o'r mynydd yn ddiogel heb weld dim yn y tywyllwch.

Caib Rew

Ice Axe

Bydd yr eicon 'Caib Rew' yn cael ei arddangos ar adegau pan fydd eira neu rew sylweddol ar y mynydd ar unrhyw adeg yn ystod yr arsylwadau, neu posibilrwydd o hyn rhwng diwrnodau yr adroddiad, yn ôl y rhagolygon ar ddydd yr adroddiad. Dylid cario caib rew i gynnig dewisiadau i gadw'n ddiogel wrth deithio ar y mynydd. Mae'n bosib na fydd raid defnyddio y gaib ar bob achlysur lle mae'r eicon yn cael ei arddangos, ond bydd cario caib yn golygu bod yr offer cywir ar gael wrth ddod ar draws sefyllfa lle mae ei angen ar y mynydd.

Gogls

Goggles

Bydd yr eicon 'Gogls' yn cael ei arddangos ar adegau pan fydd posibilrwydd o eira yn disgyn, neu yn cael ei symud gan y gwynt, yn debygol yn y rhagolygon ar ddydd yr adroddiad. Mewn amgylchiadau o'r fath mae eira yn cael ei chwythu i'ch gwyneb yn gallu ei gwneud yn anodd cadw eich llygaid ar agor i weld, sy'n gallu effeithio ar eich gallu i gadw yn ddiogel ar y mynydd. Gall gwisgo gogls eira (fel gogls sgïo) wneud hi'n rhwyddach i weld mewn tywydd o'r fath, yn ogystal â chadw eich gwyneb yn gynhesach.

Crafangau Cerdded

Crampons

Bydd yr eicon 'Crafangau Cerdded' yn cael ei arddangos ar adegau pan fydd posibilrwydd o eira neu rew sylweddol ar y mynydd ar unrhyw adeg yn ystod yrarsylwadau, neu rhwng diwrnodau yr adroddiad yn ôl y rhagolygon ar ddydd yr adroddiad. Wrth ddefnyddio unrhyw fath o bigau ar y traed bydd defnydd o gaib rew ar yr un pryd yn ei gwneud yn fwy diogel drwy gynnig ffordd o leihau peryglon baglu neu lithro, yn ogystal â bod yn gymorth i gadw cydbwysedd. Bydd adegau pan y gall pigau bach 'microspikes' fod yn fwy addas, ond bydd crafangau cerdded 'mountaineering crampons' yn cynnig dewis mwy diogel mewn ardaloedd o amodau mwy heriol neu ar lethrau o unrhyw fath. Ni fydd adegau o arddangos yr eicon yma yn gwahaniaethu rhwng mathau gwahanol o bigau i'r traed, a dylid gwneud penderfyniad yn unol â'r holl wybodaeth sydd ar gael, gan gynnwys darllen yr adroddiad llawn. Bydd crafangau cerdded 'mountaineering crampons' yn cynnig dewis sydd yn dueddol o weithio mewn amrywiaeth mwy eang o amodau, hyd yn oed os nad hyn yw'r dewis rhwyddaf ar bob achlysur.

Pigau Bach

Microspikes

Bydd yr eicon 'Pigau Bach' yn cael ei arddangos ar adegau pan fydd posibilrwydd y gallai pigau bach (microspikes) fod yn ddefnyddiol i roi dewisiadau diogel ar adegau lle bydd crafangau cerdded (mountaineering crampons) yn debygol o fod yn llai addas. Bydd yn cael ei arddangos pan fo amodau o'r fath yn bosib ar unrhyw adeg rhwng diwrnodau yr adroddiadau. Mae yn fwy tebygol o gael ei arddangos pan fydd amodau yn fwy ymylol e.e. pan nad oes eira ar y mynydd, ond mae cyfnod byr o amodau rhewllyd yn bosib.

Dehongli delwedd amodau cyffredinol

Bydd y ddelwedd mynydd yn rhoi syniad sydyn ar amodau cyffredinol ar draws y mynydd yn ôl yr arsylwadau ar y llwybr perthnasol ar ddydd yr adroddiad, gan nodi brasamcan o uchderau perthnasol.

Tir heb eira na rhew sylweddol yn gorwedd.
Tir lle mae eira yn gorwedd.
Tir lle mae rhew neu amodau rhewllyd.
Rhannau o'r llwybr heb eira na rhew.
Tir lle mae ardaloedd mwy cyfyngedig o eira, neu orchudd rhannol.
Gellir cyfuno yr amodau uchod i roi argraff o amodau cymysg.